Jeremiah 48:45 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdd dan gysgod waliau Cheshbon. Mae tân wedi lledu o Cheshbon, fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon. Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moab i ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gerllaw Hesbon y safant, yn ffoaduriaid heb nerth; canys aeth tn allan o Hesbon, a fflam o blas Sihon, ac yswyd talcen Moab a chorun plant y cythrwfl.