Jeremiah 48:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a'r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd, fydd dim un yn dianc. Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio, a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw'r anrheithiwr i bob dinas, ni ddihanga un ohonynt; derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd, fel y dywed yr ARGLWYDD.