Jeremiah 48:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Côd garreg fedd i Moab, achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd ei threfi yn cael eu dinistrio a fydd neb yn byw ynddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhowch garreg fedd ar Moab, canys difodwyd hi'n llwyr; gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.