Jeremiah 49:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a'i frodyr a'i gymdogion, ac nid yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau. Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw; fyddan nhw ddim yn gallu cuddio. Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau; datguddiais ei fannau cudd, ac nid oes ganddo unman i ymguddio. Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion, ac nid ydynt mwyach.