Jeremiah 49:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; "Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.