Jeremiah 49:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol."