Jeremiah 49:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?