Jeremiah 49:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a'i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a'i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'r amser yn dod” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba. Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion, a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw. Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,” —meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a bydd yn garnedd anghyfannedd, a llosgir ei phentrefi thn; yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi," medd yr ARGLWYDD.