Jeremiah 49:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr, yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn, fel gwraig ar fin cael babi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor."