Jeremiah 49:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd; ewch i guddio mewn ogofâu! Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn bwriadu ymosod arnoch chi. Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Hasor," medd yr ARGLWYDD; "oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn, a lluniodd gynllun yn eich erbyn.