Jeremiah 49:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail. Bydda i'n gyrru ar chwâl bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd eu camelod yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail; gwasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd 'u talcennau'n foel; o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr," medd yr ARGLWYDD.