Jeremiah 49:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a'r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lân gan y gelynion sydd am eu lladd nhw. Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau, nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes; dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,' medd yr ARGLWYDD. 'Gyrraf y cleddyf ar eu hl, nes i mi eu llwyr ddifetha.