Jeremiah 49:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffowch! Trowch yn ôl! Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau mae'n amser i mi eu cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Dedan; canys dygaf drychineb Esau arno pan gosbaf ef.