Jeremiah 5:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo'r ARGLWYDD ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha, ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr. Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd, achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy, ond peidiwch gwneud diwedd llwyr. Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.