Jeremiah 5:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a'th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a'th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a'th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a'th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd. Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched. Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg. Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys. Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol — a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara; ysa dy feibion a'th ferched; ysa dy braidd a'th wartheg; ysa dy winwydd a'th ffigyswydd; distrywia chleddyf dy ddinasoedd caerog, y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.