Jeremiah 5:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn sydd yn rhoi'r glaw cynnar a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud, “Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw. Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref; mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni ddywedant yn eu calon, "Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd, a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf."