Jeremiah 5:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
wedi pesgi ac yn edrych mor dda. Does dim pen draw i'w drygioni nhw! Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad, nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras. Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg; ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo, ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.