Jeremiah 5:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a'u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau? Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw. Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro. Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di? Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt; difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd. Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg, a gwrthod dychwelyd.