Jeremiah 5:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hyn llew o'r coed a'u tery hwy, blaidd o'r anialwch a'u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a'r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig. Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch. Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi, a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau! Maen nhw wedi gwrthryfela ac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr, a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio; bydd llewpard yn gwylio'u dinasoedd ac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt; oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.