Jeremiah 5:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd y'th arbedwn am hyn? dy blant a'm gadawsant i, ac a dyngasant i'r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Jerwsalem — sut alla i faddau i ti am hyn? Mae dy bobl wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛ sydd ddim yn bod! Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhw dyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr. Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Sut y maddeuaf iti am hyn? Y mae dy blant wedi fy ngadael, ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau. Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i du375?'r butain.