Jeremiah 50:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i. Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu. Roeddech chi'n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae. Roeddech chi'n gweryru fel meirch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Chwi, y rhai sy'n mathru f'etifeddiaeth, er ichwi lawenhau, er ichwi orfoleddu, er ichwi brancio fel llo mewn porfa, er ichwi weryru fel meirch,