Jeremiah 50:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr, a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth. I ddweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd! Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr, a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi. Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd, yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.