Jeremiah 50:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am fod yr ARGLWYDD wedi digio fydd neb yn cael byw yno — bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu, ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi, ond bydd yn anghyfannedd i gyd; bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.