Jeremiah 50:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon! Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth, saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd! Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Trefnwch eich rhengoedd yn gylch yn erbyn Babilon, bawb sy'n tynnu bwa; ergydiwch ati, heb arbed saethau, canys yn erbyn yr ARGLWYDD y pechodd.