Jeremiah 50:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad. Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio. Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio, a'i waliau wedi eu bwrw i lawr. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni. Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad: 'Gwnaeth arwydd o ymostyngiad, cwympodd ei hamddiffynfeydd, bwriwyd ei muriau i lawr.' Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn, dialwch arni; megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.