Jeremiah 50:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a'i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a'i hysodd, a'r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a'i diesgyrnodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Praidd ar wasgar yw Israel, a'r llewod yn eu hymlid. Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn.