Jeremiah 50:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a'i delwau a ddrylliwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cyhoeddwch y newyddion drwy'r gwledydd i gyd; peidiwch dal dim yn ôl. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall: ‘Mae Babilon yn mynd i syrthio! Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio! Bydd Merodach yn cael ei falu! Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio! Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch; codwch faner a chyhoeddwch; peidiwch chelu ond dywedwch, 'Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach. Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.'