Jeremiah 50:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i'r rhai a weddillwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “Fydd Israel yn gwneud dim byd o'i le; fydd dim pechod i'w gael yn Jwda. Dw i'n mynd i faddau i'r rhai wnes i eu cadw'n fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.'