Jeremiah 50:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau; mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg. Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy, a dwyn allan arfau ei ddigofaint; oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.