Jeremiah 50:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon! Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi! Codwch wersyll o gwmpas y ddinas! Does neb i gael dianc! Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi. Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill. Mae hi wedi ymddwyn yn haerllug yn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon, pob un sy'n tynnu bwa; gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch, rhag i neb ddianc ohoni. Talwch iddi yn l ei gweithred, ac yn l y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau; canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.