Jeremiah 50:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys o'r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd. Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno. Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys daeth cenedl yn ei herbyn o'r gogledd; gwna ei gwlad yn anghyfannedd, ac ni thrig ynddi na dyn nac anifail. Ffoesant ac aethant ymaith."