Jeremiah 50:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a'r a'u caethiwodd hwynt a'u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.