Jeremiah 50:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eu Gwaredwr sydd gryf; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i'r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw, ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw. Ond bydd yn aflonyddu ar y bobl sy'n byw yn Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.