Jeremiah 50:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrys fydd yn byw yn Babilon. Fydd pobl yn byw yno byth eto — neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth.