Jeremiah 50:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wylo yr ânt, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.” Byddan nhw'n crïo wrth gerdded, ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "daw pobl Israel a phobl Jwda ynghyd gan wylo, i ymofyn am yr ARGLWYDD eu Duw.