Jeremiah 50:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pawb a'r a'u cawsant a'u difasant, a'u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio. Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud, ‘Does dim bai arnon ni. Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Fe oedd eu porfa go iawn nhw — unig obaith eu hynafiaid.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pob un a ddi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, 'Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.'