Jeremiah 50:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn; oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryfion o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhesi i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilon dyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd; safant yn rhengoedd yn ei herbyn; ac oddi yno y goresgynnir hi. Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.