Jeremiah 51:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i'w dinistrio hi; canys dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial ei deml ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhowch fin ar y saethau! Llanwch eich cewyll!” (Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i frenhinoedd Media godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media; canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio. Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.