Jeremiah 51:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr ARGLWYDD a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhowch yr arwydd i ymosod ar waliau Babilon! Dewch â mwy o filwyr! Gosodwch wylwyr o'i chwmpas! Paratowch grwpiau i ymosod arni!” Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneud beth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codwch faner yn erbyn muriau Babilon; cryfhewch y wyliadwriaeth, a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr; oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.