Jeremiah 51:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi i'th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r creigiau, ac a'th wnaf di yn fynydd llosg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD. “Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd. Dw i'n mynd i dy daro di, a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni. Byddi fel llosgfynydd mud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr," medd yr ARGLWYDD, "dinistrydd yr holl ddaear. Estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th dreiglo i lawr o'r creigiau, a'th wneud yn fynydd llosgedig.