Jeremiah 51:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â'r lindys blewog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrdd i alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon — Ararat, Minni ac Ashcenas. Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad. Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Codwch faner yn y tir, canwch utgorn ymysg y cenhedloedd, neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn; galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd, Ararat, Minni ac Ascenas. Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn, dygwch ymlaen feirch, mor niferus 'r locustiaid heidiog.