Jeremiah 51:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a'i barrau a dorrwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd. Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau. Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen; byddan nhw'n wan fel merched. Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi. Bydd barrau eu giatiau wedi eu torri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd; llechant yn eu hamddiffynfeydd; pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd; llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.