Jeremiah 51:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nebuchodonosor brenin Babilon a'm hysodd, ac a'm hysigodd i; efe a'm gwnaeth fel llestr gwag; efe a'm llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o'm danteithion; efe a'm bwriodd i allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio, a gyrru fy mhobl i ffwrdd. Llyncodd fi fel anghenfil, a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth. Gadawodd fi fel plât gwag wedi ei glirio'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon; bwriodd fi heibio fel llestr gwag; fel draig fe'm llyncodd; llanwodd ei fol 'm rhannau danteithiol, a'm chwydu allan."