Jeremiah 51:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a'u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau, ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib. Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu, a fyddan nhw byth yn deffro eto,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn, meddwaf hwy nes y byddant yn chwil, ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro," medd yr ARGLWYDD.