Jeremiah 51:44 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o'i safn ef yr hyn a lyncodd; a'r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon. Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi ei lyncu. Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy. Bydd waliau Babilon yn syrthio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cosbaf Bel ym Mabilon, a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd; ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach, canys syrthiodd muriau Babilon.