Jeremiah 51:46 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a'r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn pan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad. Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn, ac un arall y flwyddyn wedyn. Bydd trais ofnadwy yn y wlad, wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.