Jeremiah 51:48 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y nefoedd a'r ddaear, a'r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o'r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhw yn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon. Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn," medd yr ARGLWYDD.