Jeremiah 51:50 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi bobl wnaeth lwyddo i ddianc rhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon, ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran! Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell. Meddyliwch am Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.