Jeremiah 51:59 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'r negeseuon oedd y proffwyd Jeremeia wedi eu rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.