Jeremiah 51:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i'w dolur hi, i edrych a iachâ hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn sydyn mae Babilon yn mynd i syrthio a dryllio. “Udwch drosti! Dewch ag eli i wella'i briwiau! Falle y bydd hi'n cael ei hiacháu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi; udwch drosti! Cymerwch falm i'w dolur, i edrych a gaiff hi ei hiachu.